Mae ymgyrchwyr wedi honni y bydd newidiadau Llywodraeth San Steffan i’r system les yn cael effaith “ofnadwy” ar bobol sy’n dioddef o salwch meddwl.

Mewn llythyr agored dywedodd arbenigwyr ar iechyd meddwl fod yr asesiad a fydd yn penderfynu a ydi person yn gallu gweithio ai peidio yn “ddiffygiol iawn”.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Guardian, dywedodd y grŵp, sy’n cynnwys prif weithredwr Mind, Paul Farmer, y byddai’r ailasesiad yn achosi “poen meddwl mawr”.

“Yn anffodus rydyn ni’n ymwybodol o achosion lle mae pobol wedi gwneud amdanynt eu hunain yn dilyn problemau â newid eu budd-daliadau,” meddai.

“Rydyn ni’n pryderu y bydd y newidiadau yn y system les yn rhoi pobol sydd â phroblemau iechyd meddwl dan hyd yn oed rhagor o bwysau.

“Maen nhw eisoes wedi eu taro yn galed mewn meysydd eraill gan gynnwys toriadau i wasanaethau.”

Mae’r llofnodwyr eraill yn cynnwys Bill Walden-Jones, prif weithredwr Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw eisiau sicrhau fod yr ailasesiad “mor deg a chywir a phosib”.