Fe fu cwymp yn nifer y draenogiaid ar Ynysoedd Prydain 25% o fewn y degawd diwethaf, yn ôl arolwg newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Roedd yr ymchwil yn dangos fod yr anifail wedi diflannu mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad, a bod yna “dystiolaeth gref nawr fod y draenog mewn trafferth”.
Mae grwpiau cadwraeth wedi galw ar bobol i sicrhau bod eu gerddi yn “gweddu i’r draenog”.
Dylid darparu cwb bach ar gyfer y draenog, ac amgylchynu’r ardd â gwrychoedd yn hytrach na ffens, medden nhw.
Mae’r ymchwil gan Gymdeithas Cadwraeth y Draenog Prydeinig yn awgrymu fod nifer y draenogiaid ar Ynysoedd Prydain wedi syrthio o 30 miliwn yn y 50au i 1.5 miliwn erbyn 1995.
“Mae gerddi wedi mynd yn llawer rhy daclus dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai prif weithredwr y gymdeithas, Fay Vass.
“Mae draenogiaid fel arfer yn teithio tua milltir bob nos er mwyn casglu bwyd ac mae angen iddyn nhw gael y rhyddid i deithio rhwng sawl ardal.”
Ymysg yr esboniadau eraill am y cwymp mae presenoldeb rhagor o foch daear yng nghefn gwlad, llai o wrychoedd i guddio ynddynt, a rhagor o ddefnydd o blaleiddiad.
Yn ôl Cymdeithas Cadwraeth y Draenog Prydeinig mae moch daear yn bwyta draenogiaid a hefyd yn cystadlu am fwyd.