Mae heddwas wedi cael dirwy ar ôl iddo falu car dyn oedd yn cael ei ddrwgdybio o yfed a gyrru.

Roedd Mark Colebrook, 30, wedi ceisio symud y Mitsubishi Lancer Evolution i le saff, ond collodd reolaeth ar y car a’i gyrru i mewn i ardd yn Hale, Sir Gaer.

Dioddefodd heddwas arall, Stuart Foy, o Heddlu Manceinion Fwyaf, fân anafiadau o ganlyniad i’r ddamwain yn oriau man y bore ar 3 Medi y llynedd.

Cafodd y ddau eu cyhuddo o gymryd y car ac roedd disgwyl y byddai achos yn Llys y Goron yn dechrau yn eu herbyn yr wythnos diwethaf.

Ond clywodd ynadon yn Rochdale fod y ddau wedi cael caniatâd uwch-swyddog i symud y car i le saff.

Plediodd Mark Colebrook yn euog a chafodd ddirwy o £135 a phedwar pwynt ar ei drwydded gyrru, yn ogystal â gorfod talu £200 mewn costau.

“Rydyn ni wedi cyfyngu ar gyfrifoldebau’r heddweision gan ddisgwyl canlyniad asesiad gan Gangen Safonau Proffesiynol y GMP a fydd yn penderfynu a fyddwn nhw’n wynebu gweithredu disgyblaethol yn eu herbyn,m” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.