Fe fydd prisiau tai 16% yn uwch erbyn diwedd 2015 yn dilyn adferiad pedair blynedd o hyd a fydd yn dechrau yn hwyrach eleni, proffwydodd grŵp economaidd dylanwadol heddiw.

Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Arian a Busnes y byddai prisiau tai yn syrthio drwy gydol 2011, gan orffen y flwyddyn 1.4% yn is nag ar y cychwyn.

Ond fe fydd y farchnad yn dechrau sefydlogi erbyn diwedd y flwyddyn, pan fydd diffyg tai yn dechrau gwthio prisiau yn uwch unwaith eto.

Bydd y banciau yn dechrau gwneud rhagor o elw ac yn fwy parod i fenthyca arian, gan ganiatáu i ragor o bobol brynu tŷ, meddai’r ganolfan.

Cafodd y cynnydd mawr diwethaf ym mhrisiau tai ei achosi gan ddiffyg cydbwysedd rhwng nifer y tai oedd ar gael a’r galw amdanynt.

Ond ers yr argyfwng ariannol mae prynwyr wedi dal yn ôl, a’r rheini oedd am gael tŷ yn ei chael hi’n anodd cael morgais gan y banciau.

Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Arian a Busnes mai dim ond 130,000 o dai newydd fydd yn cael eu hadeiladu yn 2010, tua hanner y nifer oedd eu hangen er mwyn cwrdd â’r galw.

Byddai prisiau yn cynyddu 16% rhwng 2011 a 2015, medden nhw, sef tua 4% bob blwyddyn.

Bydd yna hyd yn oed rhagor o alw yn Llundain, lle y mae disgwyl i brisiau tai godi 24% yn ystod yr un cyfnod.

“Rydyn ni’n parhau i gredu y bydd prisiau tai yn syrthio eleni, er bod arwyddion y bydd pethau’n sefydlogi erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai prif weithredwr y ganolfan, Douglas McWilliams.

“Ein cred ni yw bod y farchnad wedi cyrraedd y gwaelod ar draws Prydain yn ei gyfanrwydd.

“Y prif beth sy’n gwthio prisiau tai i fyny yw’r diffyg tai sydd ar gael, sydd eisoes wedi arwain at gynnydd ym mhris rhentu tai.”