Cafodd mwy o blant nag erioed o’r blaen eu hachub rhag cael eu camdrin gan bedoffiliaid ar-lein y llynedd.

Mae mwy na 1,000 o blant wedi eu diogelu, gan gynnwys 414 dros y 12 mis diwethaf, cyhoeddodd y Ganolfan Diogelu Plant Ar-lein heddiw.

Nod y ganolfan yw dal pedoffiliaid ar-lein a mynd a nhw i’r llys. Mae eu ffigyrau yn dangos eu bod nhw wedi atal 394 o rwydweithiau pedoffiliaid ers cael ei sefydlu yn 2006.

Cafodd 132 rhwydwaith ei atal y llynedd a chafodd 513 o bobol eu harestio. Mae eu gwaith wedi arwain at arestio 1,644 o bobol dros gyfnod o bum mlynedd.

‘Dioddef mewn distawrwydd’

Ond dywedodd Peter Davies, prif weithredwr y ganolfan, nad oedd y frwydr ar ben.

“Does dim byd gwaeth na throseddau yn erbyn plant ac mae gormod yn dioddef mewn distawrwydd,” meddai.

“Mae angen i ni annog pobol i roi gwybod, gweithio er mwyn atal y drosedd rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac erlid y troseddwyr er eu bod nhw’n gwneud eu gorau i guddio beth y maen nhw’n ei wneud.”

Bydd y ganolfan yn cael ei gyfuno â’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn 2013. Ymddiswyddodd ei gyn-bennaeth Jim Gamble ar ôl clywed y newyddion, gan ddweud nad oedd y penderfyniad yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch plant.

Ond mynnodd Peter Davies y bydd y canolfan yn cadw ei “frand ei hun, y modd yr ydyn ni’n gwneud pethau, a’n hymroddiad i ddiogelu plant”.

“Rydw i’n credu fod y ffigyrau heddiw yn dangos ein bod ni’n taflu golau i lefydd tywyll iawn, ac yn gweithio’n galed er mwyn chwalu’r rhwystrau sy’n atal plant rhag cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt,” meddai.