Chris Grayling
Mae nifer y bobol sy’n ddi-waith ers amser hir wedi codi o bron 350,000 trwy wledydd Prydain yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.

Dyna’r honiad mewn adroddiad newydd gan gorff ymchwil sy’n dweud bod y duedd yn achosi pryder mawr.

Roedd diweithdra tymor hir – pobol sy’n ddi-waith am fwy na blwyddyn – wedi bod yn syrthio’n gyson er 1997 ond, yn ôl adroddiad yr IPPR, mae wedi cynyddu’n gyflym ers 2009.

Bryd hynny, roedd ychydig tua 507,000 wedi bod heb waith ers blwyddyn neu fwy; bellach mae’r ffigwr yn 850,000.

  • Mae’r cynnydd ymhlith dynion yn 230,000 – o 338,000 i 568,000.
  • Mae’r cynnydd ymhlith menywod yn 113,000 – o 169,000 i 282,000.

“Mae’r penawdau’n awgrymu bod lefelau diweithrda’n sefydlog, ond mae’r rhain yn cuddio tueddiadau o dan yr wyneb,” meddai Nick Pearce, Cyfarwyddwr yr IPPR.

“Mae bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn yn gallu creithio, ganei gwneud hi’n fwy anodd cael swydd yn ogystal â chael effaith wael ar iechyd a lles.

“Fe allai penderfyniad y Llywodraeth i ddileu gwarant o swydd i bobol ifanc olygu bod cenhedlaeth o bobol ifanc wedi eu creithio am flynyddoedd.”

Llywodraeth yn ateb

Ond mae’r Llywodraeth wedi taro’n ôl. Roedd cynlluniau gwaith y Llywodraeth Lafur flaenorol yn aneffeithiol, meddai’r Gweinidog Cyflogaeth, Chris Grayling.

Roedd yn mynnu bod y Llywodraeth wedi gweithredu i greu cynllun newydd, sy’n dod i fod y mis nesa’, ac i newid y drefn fudd-daliadau i wneud gwaith yn fwy deniadol na bod ar daliadau lles.