Mae toiled ger lan-y-môr wedi ei werthu mewn ocsiwn am £104,000.
Roedd disgwyl i’r adeilad deulawr ar y promenâd yn Sheringham yn Norfolk werthu am bri rhwng £30,000 a £50,000.
Fe gafodd y prynwr ei ddisgrifio gan yr arwerthwr fel adeiladwr yn arbenigo mewn adeiladau anghyffredin , sy’n bwriadu datblygu’r lle ar gyfer ei deulu.
Roedd y cynghorydd lleol Trevor Ivory wrth ei fodd gyda’r pris.
“Mi fydd yr arian yma’n talu am adeiladu toiled newydd yn Sheringham ac fe fydd yna arian dros ben i brosiectau eraill hefyd,” meddai.