Mae cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant y cyngor fethodd ofalu am Babi P wedi ennill ei hachos yn y Llys Apêl.

Fe gafodd Sharon Shoesmith ei diswyddo yn dilyn ymchwiliad i farwolaeth Babi P.

Mi lwyddodd Ms Shoesmith i herio penderfyniad yr Uchel Lys bod y cyn-Ysgrifennydd Plant Ed Balls a Chyngor Haringey yn Llundain wedi gweithredu’n ôl y gyfraith wrth ei diswyddo.

Roedd ei chyfreithwyr yn dadlau ei bod wedi diodde’ anghyfiawnder, a’i bod wedi ei hel o’i swydd £133,000 y flwyddyn oherwydd pwysau gwleidyddol ac ymgyrch yn y papurau newydd.

Mi gollodd Ms Shoesmith ei gwaith ym mis Rhagfyr 2008 wedi i adroddiad damniol gan Ofsted ddangos bod ei hadran wedi methu ar sawl achlysur yn achos Babi P, sef Peter Connelly.

Ar ôl ennill ei hapêl, mi ddywedodd Ms Shoesmith ei bod “wrth ei bodd”.