Siambr Ty'r Arglwyddi
Fe allai Arglwydd Toriaidd wynebu carchar ar ôl ei gael yn euog o chwech achos o dwyllo tros lwfansau seneddol.

Fe benderfynodd rheithgor bod yr Arglwydd Hanningfield yn euog o dwyll trwy hawlio mwy na £13,000 o gostau am fod yn Llundain – er nad oedd yno.

Roedd yr Arglwydd, sydd hefyd yn cyn arweinydd ar Gyngor Sir Essex a bellach wedi ei ddiarddel o’r blaid, wedi gwadu’r cyhuddiadau i gyd.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ymhen tair wythnos – mae ASau sydd wedi eu cael yn euog o dwyll wedi cael cyfnodau o garchar.

Paul White oedd ei enw cyn cael ei ddyrchafu’n Arglwydd.