Zytiga TM - y logo
Fe allai cyffur newydd i wella canser y prostad fod ar gael yng ngwledydd Prydain ymhen blwyddyn.
Mae rheoleiddwyr Ewropeaidd wedi cael cais i gymeradwyo’r bilsen – abiraterone acetate – sydd eisoes ar gael yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r cyffur yn cynnig pedwar mis o fywyd ychwanegol i ddynion sy’n dioddef o ganser prostad ac sydd heb lawer o ddewis o ran triniaethau eraill.
Os yw’r cais yn llwyddiannus, gallai’r bilsen fod ar gael ym Mhrydain o fewn y flwyddyn. Ond, mae’n ansicr a fydd y bilsen ar gael i gleifion drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae yna ddadlau mawr am fod y corff cymeradwyo, NICE, yn gwrthod awdurdodi defnydd o gyffuriau sy’n gallu arafu canserau eraill.
Mae Abiraterone acetate – sy’n gweithio mewn ffordd gwbl newydd ac yn cael ei farchnata o dan yr enw Zytiga – yn cynnig newid yn y ffordd y mae cyffuriau arferol yn ymdrin â hormonau.
Er bod mwyafrif cleifion wedi cael pedwar mis ychwanegol o fywyd – mae rhai wedi gwneud yn well ac yn parhau’n fyw ers dechrau’r driniaeth yn 2007.
Bob blwyddyn, mae tua 10,000 o ddynion yn marw o ganser y prostad yng ngwledydd Prydain.