Y Canghellor
Efallai y bydd rhaid i Lywodraeth Prydain ystyried arafu’r toriadau gwario, yn ôl un o benaethiaid corff ariannol rhyngwladol.
Os na fydd yr economi’n dechrau tyfu’n gryfach, mae’r OECD – corff sy’n cynnwys mwy na 30 o wledydd – yn credu bod dadl tros arafu’r toriadau gwario.
Mae’r OECD wedi gostwng eu disgwyliadau o ran twf yng ngwledydd Prydain – i lawr o 2% i 1.8% y flwyddyn nesa’.
Hyd yn hyn, mae’r Canghellor, George Osborne, wedi mynnu nad oes dewis arall ond mae Llafur wedi bachu ar y sylwadau newydd a wnaed gan brif economegydd yr OECD ym mhapur newydd y Times.
‘Arwyddocaol’ meddai Llafur
“Mae hyn yn ymyrraeth arwyddocaol iawn,” meddai llefarydd ariannol y Blaid Lafur, Ed Balls, sydd wedi bod yn galw am arafu’r toriadau.
“Mae hyd yn oed yr OECD sydd, yn draddodiadol, wedi cefnogi polisi economaidd y Llywodraeth a chynllun toriadau George Osborne, bellach yn dweud y dylai’r Canghellor ystyried llwybr newydd.”