Mae economi Ynysoedd Prydain wedi methu a thyfu dros y chwe mis diwethaf wrth i gartrefi wario llai, cadarnhaodd ffigyrau swyddogol heddiw.

Tyfodd Cynnyrch Domestig Gros 0.5% yn chwarter cyntaf 2011, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny’n golygu fod twf yn y chwarter cyntaf wedi dadwneud effaith y cwymp o 0.5% yn chwarter olaf 2010.

Syrthiodd gwario gan gartrefi Prydain 0.6%, y cwymp mwyaf ers ail chwarter 2009. Daw hynny ar ôl cwymp o 0.3% yn chwarter olaf 2010.

Roedd rhywfaint o newyddion da o ran ymdrechion y llywodraeth i ail-falansio yr economi fel ei fod yn llai dibynnol ar fewnforio.

Syrthiodd y bwlch rhwng mewnforio ac allforio i £5.7 biliwn, o £11.5 biliwn y flwyddyn flaenorol, wrth i allforion gynyddu a mewnforion leihau.

Dywedodd James Knightley, economegydd ag ING mai’r cynnydd 3.7% mewn allforion a’r cwymp 2.3% mewn allforion oedd “ yr unig newyddion da” yn y ffigyrau.

Mae’n debygol y bydd cyflwr marwaidd yr economi yn arwain at ragor o feirniadaeth gan y rheini sy’n credu fod toriadau mawr Llywodraeth San Steffan yn gwneud drwg i’r economi.

Dywedodd Chris Williamson, prif economegydd Markit, mai’r “cwsmer yw’r broblem fwyaf”.

“Mae hyn yn cadarnhau nad ydi ysbryd yn uchel iawn yng nghartrefi Prydain, fel oedd awl arolwg wedi ei awgrymu cyn hyn.

“Mae’n awgrymu bydd twf yn yr economi yn araf, ar y gorau.”