Ryan Giggs
Roedd Ryan Giggs yn absennol o sesiwn ymarfer diweddaraf Man Utd y bore ‘ma ar ôl cael ei ddal ynghanol ffrae rhwng gwleidyddion, y farnwriaeth a’r cyfryngau.

Ddoe defnyddiodd yr Aelod Seneddol, John Hemming, fraint seneddol i enwi’r seren oedd wedi gofyn am orchymyn i wahardd unrhyw honiadau ei fod wedi cael perthynas â’r Gymraes Imogen Thomas.

Dyw Manchester United ddim wedi cynnig unrhyw esboniad ynglŷn â pham nad oedd Giggs wedi ymarfer.

Mae’r clwb yn paratoi i wynebu Barcelona yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Wembley nos Sadwrn.

Roedd disgwyl i Ryan Giggs chwarae rhan yng ngêm tysteb cyn amddiffynnwr Man Utd, Gary Neville, yn erbyn Juventus yn Old Trafford heno.

Stwr gan Clegg

Mae’n debyg bod Nick Clegg wedi rhoi stwr i John Hemming, sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, ar ôl iddo enwi Ryan Giggs yn Nhy’r Cyffredin.

Wrth siarad yn sesiwn cwestiynau y Dirprwy Brif Weinidog heddiw, roedd Nick Clegg yn barod i feirniadu aelod o’i blaid ei hun.

“Dydw i ddim yn meddwl fod unrhyw unigolyn uwchlaw’r gyfraith ac os nad ydyn ni’n hoffi’r gyfraith fe ddylen ni ei newid yn hytrach na’i anwybyddu,” meddai.