Aberdaugleddau
Dyw cynllun gan Lywodraeth San Steffan i gau dros hanner gorsafoedd gwylwyr y glannau Ynysoedd Prydain ddim wedi ei “gerfio mewn carreg,” meddai gweinidog heddiw.

Dywedodd y gweinidog llongau, Mike Penning, fod y llywodraeth yn bwriadu gwrando ar bryderon gwylwyr y glannau.

Mae’r llywodraeth yn bwriadu cau 10 o 18 o orsafoedd gwylwyr y glannau, a dim ond tri o’r rhai fydd yn weddill fydd ar agor drwy’r dydd.

Mae’r Maritime and Coastguard Agency (MCA) yn bwriadu cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn gyfan gwbl a chau gorsaf Abertawe yn ystod y nos.

Ond yr wythnos diwethaf awgrymodd ffynonellau yn Whitehall y bydd y Llywodraeth yn lleihau eu cynlluniau i dorri’n ôl ar y gorsafoedd trwy wledydd Prydain.

Daw sylwadau Mike Penning wrth i wylwyr y glannau ddweud wrth Bwyllgor Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin eu bod nhw’n pryderu y bydd y newidiadau yn arwain at golli sgiliau ymysg y staff a llai o gyd-weithio wrth achub pobol o’r môr.

Dywedodd Brian George, o Wylwyr y Glannau Lerpwl, wrth y pwyllgor fod “llawer iawn o wybodaeth leol yn mynd i ddiflannu”.

Roedd gwirfoddolwyr yn “anhapus iawn” ac yn teimlo fod y llywodraeth wedi “cefnu arnyn nhw”.