Mae hanner cwmnïau cynhyrchu Prydain yn credu fod strategaeth Llywodraeth San Steffan o geisio adfer ‘cydbwysedd’ yr economi yn anghywir, yn ôl pol-piniwn.

Mae’r llywodraeth yn mynnu eu bod nhw’n bwriadu cryfhau’r sector cynhyrchu fel bod y wlad yn llai dibynnol ar y sector ariannol.

Ond yn ôl pôl piniwn gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, holodd 1,000 o gwmnïau cynhyrchu, mae 54% yn credu nad yw’r llywodraeth wedi gwneud digon.

“Mae’r diwydiant cynhyrchu wedi bod wrth wraidd yr adferiad economaidd hyd yma,” meddai llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, John Wood.

“Mae wed codi Prydain allan o’r dirwasgiad. Ond mae twf yn y sector yma wedi arafu’n sylweddol ac mae angen i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei allu i’w helpu.

“ Yn anffodus mae’r arolwg yma yn awgrymu fod y rhan fwyaf o gwmnïau cynhyrchu yn credu bod strategaeth y llywodraeth yn anghywir.

“Maen nhw eisiau gweld gweithredu yn hytrach na geiriau gwag. Mae angen annog busnesau i greu cynnyrch newydd a buddsoddi yn y sgiliau peirianneg sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol Prydain.”

Dangosodd yr arolwg fod tri o bob pedwar cwmni yn credu fod y Llywodraeth yn rhoi mwy o bwyslais ar y sector ariannol na’r sector gynhyrchu.