Y Twrnai Cyffredinol - Dominic Grieve
Dyw’r Twrnai Cyffredinol ddim wedi derbyn cwyn swyddogol am benderfyniad papur newydd i gyhoeddi llun o bêl-droediwr enwog sydd ynghanol sgandal ryw.

Ac mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud nad yw hi’n deg bod papurau newydd yn cael eu hatal rhag cyhoeddi enwau pobol o’r fath, er eu bod ymhobman ar y We.

Doedd dim modd cynnal y sefyllfa honno, meddai David Cameron heddiw, gan gydnabod nad oedd atebion hawdd i’w cael.

Roedd yn ymateb ar ôl i bapur y Sunday Herald yn yr Alban gyhoeddi llun o’r chwaraewr – er gwaetha’ gwarhaddiad llys yn Lloegr yn rhwystro cyhoeddi’i enw.

Datgelu’r enw

Mae negeseuon ar wefannau fel Twitter a Wikipedia wedi datgelu enw’r pêl-droediwr y mae’r fodel Gymraeg, Imogen Thomas, yn honni cael perthynas ag ef.

Y mis diwetha’ y cafodd y chwaraewr y gwaharddiad yn erbyn papur y Sun sydd wedi bod yn gweithio gydag Imogen Thomas i geisio datgelu’r stori.

Mae ei gyfreithwyr bellach yn dod ag achos yn erbyn Twitter a “phobol anhysbys” am gyhoeddi’r enw.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, hefyd wedi rhybuddio’r Twrnai Cyffredinol, Dominic Greive, rhag dod ag achos yn erbyn papur yn yr Alban, lle mae’r system gyfreithiol yn wahanol.