David Cameron - cynnig arall ar hybu'r Gymdeithas Fawr
Mae Prif Weinidog Prydain am geisio rhoi bywyd newydd – eto – yn egwyddor y Gymdeithas Fawr.

Yn Lloegr, fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn gyda’r bwriad o roi £40 miliwn yn rhagor i gefnogi mudiadau gwirfoddol.

Gobaith David Cameron yw y bydd pobol yn rhoi rhagor o arian ac amser i helpu elusennau ac fe fydd gweinidogion y Llywodraeth yn addo gwneud o leia’ un diwrnod o waith ar ran mudiadau o’r fath.

Y Gymdeithas Fawr oedd syniad canolog David Cameron adeg yr Etholiad Cyffredinol ond mae’r Blaid Lafur yn dweud ei fod wedi mynd i’r gwellt.

Mae polau piniwn hefyd yn awgrymu nad yw pobol yn deall beth yn union yw’r syniad sydd i fod i gryfhau cymunedau, perthnasau a theuluoedd.

‘Nid syniad niwlog’

Heddiw, fe fydd y Prif Weinidog yn mynnu nad rhywbeth meddal, niwlog yw’r syniad ond polisi caled a phwysig.

Fe fydd yn rhoi pwyslais arbennig ar y teulu, gan ddweud bod teulu cryf yn dysgu plant “sut i ymddwyn a sut i roi a derbyn”.