George Osborne - gwrando, ond gwrthod y gofynion
Mae disgwyl y gwrthadro cynta’ rhwng Llywodraeth newydd yr Alban a Llywodraeth Prydain wrth i’r Prif Weinidog Albanaidd, Alex Salmond, gyflwyno rhes o ofynion yn Whitehall.

Fe fydd Alex Salmond yn gofyn am ragor o hawliau ariannol i’r Alban, gan gynnwys rheolaeth tros y dreth fusnes a’r dreth ar alcohol, Ystadau’r Goron, a darlledu.

Mae hefyd yn debyg o ofyn i’r Canghellor, George Osborne, newid ei feddwl tros dreth ychwanegol ar gynnyrch olew Môr y Gogledd – yn ôl cwmnïau olew, fe allai hynny gostio tua 10,000 o swyddi yn yr Alban.

Gwrthod

Mae papurau Albanaidd yn awgrymu’n gry’ y bydd y Canghellor yn gwrando ond mai cael ei wrthod fydd Alex Salmond, sydd hefyd eisiau i’r Alban gael ei chyfran o incwm y trethi olew.

Fe fydd yn dadlau bod ei fuddugoliaeth fawr yn etholiadau dechrau’r mis wedi rhoi’r hawl iddo gyflwyno’r gofynion ar ran y bobol.

Yn ystod y deuddydd o drafodaethau yn Llundain, fe fydd Alex Salmond yn cwrdd hefyd gyda’r Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.