Imogen Thomas
Mae papur newydd o’r Alban wedi datgelu wyneb y pêl-droediwr byd-enwog sydd, yn ôl honiadau wedi cael perthynas y tu allan i briodas â’r Gymraes Imogen Thomas.

Mae papur newydd The Sunday Herald wedi rhoi llun o’r pêl-droediwr ar ei dudalen flaen.

Mae’r llun yn cynnwys band du dros ei wyneb a’r geiriau “sensor” arno. Mae’n hawdd adnabod wyneb y chwaraewr.

Mae gorchymyn llys yn dweud nad oes modd enwi’r chwaraewr, sydd wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn papur newydd y Sun a cyn seren Big Brother, Imogen Thomas.

Ond mae miloedd o negeseuon eisoes wedi ymddangos ar wefan Twitter gan ddefnyddwyr sy’n honni eu bod nhw’n gwybod ei enw.

Ddydd Gwener cyhoeddwyd fod y pêl-droediwr priod yn gobeithio gorfodi perchnogion y wefan i ddatgelu pwy ollyngodd y gath o’r cwd.

“Heddiw rydyn ni wedi enwi’r chwaraewr sydd wedi ei gysylltu i orchymyn llys gan filoedd o negeseuon ar Twitter,” meddai colofn olygyddol y papur newydd.

“Pam? Am ein bod ni’n credu nad yw’n gynaliadwy fod y gyfraith yn cael ei ddefnyddio er mwyn atal papurau newydd rhag cyhoeddi gwybodaeth sy’n rhydd i bawb ei weld ar y we.”

Ychwanegodd y papur newydd nad oes gan orchymyn y llys unrhyw rym cyfreithiol yn yr Alban, ble mae angen gorchymyn llys ar wahân.

“Fe ddylen ni ychwanegu nad ydym ni’n cyhuddo’r pêl-droediwr o unrhyw gamwedd. Dyw cywirdeb yr honiad ddim yn berthnasol yn y ddadl yma.”