Mae cadwyn archfarchnadoedd Morrisons yn bwriadu talu £1.5 biliwn am gwmni bwyd Iceland.
Yn ôl papur newydd y Sunday Times mae’r cwmni yn gobeithio treblu nifer yr archfarchnadoedd y mae’n berchen arnynt.
Byddai hynny’n golygu fod gan y cwmni tua’r un faint o archfarchnadoedd ac Asda a Sainsburys.
Mae archfarchnad Iceland yn eiddo i fanc o Wlad yr Iâ, Landsbanki, ers 2008.
Methodd y banc hwnnw o ganlyniad i’r argyfwng ariannol ac mae’r gweinyddwyr yn bwriadu gwerthu’r archfarchnad ym mis Medi.
Mae’n debyg bod Asda a Sainsburys hefyd yn bwriadu gwneud cynnig am o leiaf rhywfaint o siopau Iceland.
Mae gan Iceland 750 o siopau ledled Ynysoedd Prydain. Mae gan Morrisons 442 archfarchnad ar hyn o bryd.