Milwyr yn gadael Irac
Bydd Prydain yn gadael Irac yn swyddogol heddiw wrth i’r Llynges Frenhinol roi’r gorau i hyfforddi morwyr y wlad.

Gadawodd lluoedd arfog Prydain y wlad yn 2009, ond heddiw bydd Opaeration Telic, a ddechreuodd yn 2003 â’r nod o ddymchwel Saddam Hussein, yn dod i ben yn swyddogol.

Er fod y fyddin wedi gadael mae’r Llynges Frenhinol wedi aros yn y wlad, gan hyfforddi milwyr Irac i amddiffyn eu dyfroedd tiriogaethol yn ogystal â’u heiddo ar arfordir y wlad.

Pan fydd eu gwaith yng nghanolfan llyngesol Umm Qasr yn dod i ben heddiw, dim ond llond llaw o Brydeinwyr fydd ar ôl yn y wlad, y rhan fwyaf yn y llysgenhadaeth yn Baghdad.

Mae’r Llynges Frenhinol wedi hyfforddi dros 1,800 o bobol Irac i frwydro ar y môr a thrwsio llwyfannau olew.

Bydd Prydain yn parhau i gefnogi rhaglen hyfforddi Nato, a bydd rhai o filwyr Irac yn cael eu hyfforddi yn academi filwrol Sandhurst.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, ei fod yn gyfle i gofio’r 179 o filwyr Prydeinig fu farw yn ystod yr wyth mlynedd yn Irac.

Ond mae’r gwrthdaro yno yn parhau – heddiw cafodd 13 o bobol eu lladd ar ôl cyfres o ffrwydradau yn y brifddinas Baghdad.