Vince Cable
Dyw’r cyhoedd heb lawn amgyffred pa mor boenus fydd y wasgfa ar safonau byw dros y blynyddoedd nesaf, meddai’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable.

Dywedodd  nad oedd pobol yn sylweddoli pa mor galed oedd yr ergyd i economi Prydain yn dilyn argyfwng ariannol 2008.

Mewn cyfweliad â phapur newydd y Guardian, dywedodd fod yn rhaid i’r cyhoedd ddeall fod y cyfnod nesaf yn mynd i fod yn un “poenus” iawn.

“Dydw i ddim yn meddwl fod pobol yn deall fod economi Prydain wedi dirywio 6 neu 7% – mae’r economi bellach 10% yn llai nag y byddai hi heb y dirwasgiad,” meddai.

“Rydyn ni’n wlad dlotach, yn bennaf oherwydd chwalfa’r banciau, y dirwasgiad, a’r newid yng nghydbwysedd economi’r byd.

“Mae’n boenus. Fe fydd yn her i ni yn y llywodraeth esbonio hynny, ac mae’n biti nad ydi’r gwleidyddion yn paratoi’r cyhoedd ar gyfer hynny ac yn esbonio pa mor fawr yw’r broblem.”

Dywedodd fod llawer iawn o’r bai ar arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a Changhellor yr wrthblaid, Ed Balls, nad oedd yn fodlon cyfaddef faint o gawlach oedd y llywodraeth flaenorol wedi ei wneud.

“Maen nhw’n gwadu fod problem strwythurol o fewn economi Prydain,” meddai.

“Mae angen trafodaeth ddiffuant ynglŷn â’r diwygiadau sydd eu hangen ar y sector ariannol – ond ar hyn o bryd does yna ddim beirniadaeth na phwysau na dadl.

“Yn y pen draw maen nhw’n amddiffynnol ac yn amharod i dderbyn fod economi Prydain wedi methu.”