Fe allai achos y fodel Gymraeg Imogen Thomas arwain at newid yn y ffordd y mae gwefannau cymdeithasol yn gweithio.

Mae’r pêl-droediwr priod a gafodd berthynas rywiol gyda hi yn ceisio gorfodi perchnogion y wefan Twitter i ddatgelu pwy sydd wedi cyhoeddi ei enw – yn groes i waharddiad llys.

Mae papurau newydd wedi cadw at y gorchymyn i beidio â datgelu enw’r pêl-droediwr ond, hyd yma, mae gafael y gyfraith ar wefannau cymdeithasol wedi bod yn llawer mwy llac.

Mae’n ymddangos bod y chwaraewr o’r Uwch Gynghrair hefyd yn dod ag achosion yn erbyn Imogen Thomas ei hun a phapur newydd y Sun.

Ond fe wnaeth ei gyfreithwyr yn glir nad yw’r achos yn gyfystyr â siwio Twitter, sydd â’u pencadlys yn yr Unol Daleithiau lle mae’r deddfau preifatrwydd yn wahanol.

Llusgo trwy’r papurau

Mae Imogen Thomas, sy’n dod o Lanelli ac a ddaeth yn enwog trwy fod yn gystadleuydd ar y rhaglen Big Brother, wedi cwyno bod ei henw hi’n cael ei lusgo trwy’r papurau tra bod y pêl-droediwr yn cael ei amddiffyn.

Mae hefyd wedi gwadu honiadau mai ceisio cael arian gan y chwaraewr yr oedd hi.

Ddoe, roedd yr Arglwydd Brif Ustus wedi cyhoeddi adroddiad am ddefnydd o waharddebau llys i warchod preifatrwydd.