Bu'n rhaid gwario biliynau i achub y banciau.
Mae’r Arglwydd wnaeth helpu i ddatgelu manylion gwaharddiad llys Syr Fred Goodwin wedi amddiffyn ei benderfyniad.
Fe ddywedodd yr Arglwydd Oakeshott ei fod yn angenrheidiol gwybod beth oedd yn mynd ymlaen o fewn y Royal Bank of Scotland yn y cyfnod yn arwain at ei fethiant.
Mae Syr Fred Goodwin wedi cael ei gyhuddo o fod yn anffyddlon i’w wraig yn y cyfnod pan oedd yn Brif Weithredwr ar y banc gafodd ei achub gan arian trethdalwyr.
Fe gafodd y gorchymyn llys ei ddatgelu’n wreiddiol gan yr Aelod Seneddol John Hemming ym mis Mawrth, pan gafodd i’r amlwg bod y gorchymyn mor llym nad oedd modd hyd yn oed dweud bod Syr Fred Goodwin yn fancar.
Fe gafodd y gorchymyn llys ei godi’n rhannol ddoe ar ôl i’r Arglwydd Stoneham, a oedd yn siarad ar ran yr Arglwydd Oakeshott, ddefnyddio braint seneddol i enwi Syr Fred Goodwin.
“Rwy’n pryderu y dylai’r stori llawn fod yn agored, fe ddylai cael ei ymchwilio’n llawn ac fe ddylen ni I gyd ddysgu o’r methiant,” meddai’r Arglwydd Oakeshott.
Fe ddywedodd bod y cyfrinachedd o amgylch cyn-Brif Weithredwr banc yr RBS yn “wirion” gan nodi y gallai’r anffyddlondeb honedig bod yn allweddol i ymchwiliadau’r Awdurdod Gwasanaeth Ariannol.