Un cartref wedi'i werthu

Mae pobol gyffredin yng ngwledydd Prydain yn gorfod aros nes bod yn 38 oed cyn gallu prynu eu tŷ cynta’.

Ac, yn ôl arolwg newydd, mae 31% o bobol ifanc wedi penderfynu na fyddan nhw’n ceisio prynu tŷ o gwbl.

Fe fyddai’n rhaid i brynwr tro cynta’ arbed cymaint â £34,500 er mwyn pryntu tŷ gwerth £150,000, meddai’r wefan ariannol moneysupermarket.com.

Er bod dewis o fwy na 1,500 o forgeisi ar gael erbyn hyn, dyw hynny’n ddim ond un rhan o ddeg o’r hyn oedd ar gael cyn y dirwasgiad.

‘Taro’n galed’

“Mae’r wasgfa gredyd a’r dirywiad economaidd wedi effeithio’n drwm ar y farchnad dai,” meddai Clare Francis, llefarydd morgeisi moneysupermartek.com. “A phrynwyr tro cynta’ sydd wedi eu taro galeta’.”

Roedd prinder tai ar werth a maint yr ernes sydd ei angen i gael morgais yn golygu bod llawer o bobol yn cael eu gwthio o’r farchnad, meddai.

Roedd y Gweinidog Tai yn Llundain, Grant Shapps, yn cydnabod bod problem ond yn dweud bod cynllun gan y Llywodraeth yn Lloegr yn mynd i helpu 10,000 o bobol yno i brynu am y tro cynta’.