Ken Clarke
Mae tri mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn treisio wedi sgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ddatganiad clir nad oes yna’r fath drosedd â “threisio ar ddêt” a bod pob math o ryw heb ganiatâd yn achos difrifol.

Maen nhw’n ymateb ar ôl sylwadau dadleuol yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ddoe, pan roddodd Ken Clarke yr argraff bod rhai mathau o dreisio yn llai difrifol na’i gilydd.

Bellach, mae tri mudiad, gan gynnwys Argyfwng Treisio Lloegr a Chymru, wedi sgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog.

Nes y bydd datganiad clir, medden nhw, mae peryg i sylwadau Ken Clarke ddrysu’r cyhoedd a thanseilio effeithiolrwydd y gyfraith.

Maen nhw hefyd wedi galw am addysg rhyw mewn ysgolion, sy’n cynnwys trafod caniatâd a pherthnasau llawn parch.