Mae lleianod yn Torquay wedi achwyn ar ôl i  beli golff ddechrau disgyn ar eu tir.

Newydd brynu’r ddau dŷ sioraidd yn Nyfnaint oedd y lleianod pan ddechreuodd peli golff ddisgyn o’r nefoedd.

Dywedodd y  14 lleian sy’n byw yn y tŷ y gallai rhywun gael anaf pe bai’r dilyw o beli golff yn parhau.

Mae’r clwb golff gerllaw wedi ateb eu gweddi, a chyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu newid trefn y cwrs, er diogelwch y lleianod.

“Dydi hyn ddim yn anghyffredin,” meddai Colin Nolan, ysgrifennydd Clwb Golff Torquay.

“Petai un neu ddwy bêl strae yn mynd dros y wal fe fyddai popeth yn iawn. Ond mae’n debyg fod y lleianod wedi gweld dau neu dair pêl y dydd yn glanio ar eu tir ac mae hynny’n broblem,” meddai.

Mae’r lleianod yn y broses o’i ailwampio’r tai sioraidd ar hyn o bryd. Bydd y prosiect, fydd yn costio tua £50,000, yn cynnwys ychwanegu tai gwydr at ochor y tŷ.

“Dydi’r lleianod ddim eisiau i rywun gael ei daro ar ei ben gan bêl, neu weld un o’r ffenestri yn cael eu dryllio. R’yn ni eisiau bod yn gymdogion da.”

Dywedodd y lleianod eu bod nhw’n gobeithio y bydd y cwrs golff yn cael ei newid cyn iddyn nhw symud i mewn i’w cartref newydd.