Stephen Lawrence
Bydd dau ddyn yn wynebu achos llys am lofruddiaeth hiliol y llanc Stephen Lawrence ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i’r fei, cyhoeddwyd heddiw.

Bydd Gary Dobson, 35, a David Norris, 34, yn wynebu achos llys yn yr Old Bailey ym mis Tachwedd wedi eu cyhuddo o’r drosedd.

Mae barnwyr wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r achos llys er i Gary Dobson gael ei ryddfarnu yn dilyn erlyniad preifat gan deulu Stephen Lawrence yn 1996.

Roedd rhieni Stephen, Neville a Doreen Lawrence, yn y Llys Apêl i glywed y penderfyniad.

“Efallai ryw ddydd y bydd yna gyfiawnder o’r diwedd,” meddai Doreen Lawrence.

Cafodd Stephen Lawrence ei drywanu i farwolaeth yn Eltham, de ddwyrain Llundain, ym mis Ebrill 1993.

“Cafodd Stephen Lawrence, dyn ifanc croenddu, ei dargedu a’i ladd gan grŵp o bobol ifanc gwyn oherwydd lliw ei groen. Roedd y drosedd erchyll,” meddai’r Arglwydd Brif Ustus Judge.