Wylfa
Mae prif arolygydd niwclear Llywodraeth San Steffan wedi dweud na allai trychineb ar raddfa gorsaf niwclear Fukushima yn Japan ddigwydd ym Mhrydain.

Cafodd yr orsaf niwclear ei daro gan ddaeargryn a tsunami ym mis Mawrth eleni ac dyw’r safle ddim yn saff o hyd.

Ond does dim pwynt i Brydain roi’r gorau i adeiuladu gorsafoedd niwclear yn sgil y trychineb, meddai  Mike Weightman.

Mewn adroddiad dechreuol ar y trychineb mae Mike Weightman yn dadlau na allai trychineb naturiol o’r fath ddigwydd ym Mhrydain.

Dywedodd fod y gorsafoedd nwiclear a fydd yn cael eu hadeiladu ym Mhrydain dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys un yn safle Wylfa, Ynys Mon, wedi eu cynllunio’n wahanol i Fukushima.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.

“Nid yw’r digwyddiadau eithafol achosodd y ddamwain yn Fukushima – gan gynnwys daeargryn 9 ar y raddfa Richter a tsunami anferth – yn fygythiad credadwy i orsafoedd niwclear Prydain,” meddai.

“Serch hynny dydyn ni ddim wedi gorffwys ar ein rhwyfau. Rhaid i ni barhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau fod gorsafoedd nwiclear Prydain mor saff a phosib.