Mae nifer y bobol sydd ar y dôl wedi cynyddu yn annisgwyl ar draws Prydain, yn ôl ffigyrau swyddogol gyhoeddwyd heddiw.

Cynyddodd nifer y bobol sydd ar y dôl 12,400 fis diwethaf i 1.47 miliwn, y cynnydd mwyaf ers 16 mis. Roedd economegwyr wedi disgwyl cwymp o rhwng 4,000 a 10,000.

Mae nifer y merched sydd ar y dôl ar ei uchaf ers 14 mlynedd a hanner, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd cynnydd o 9,300 i 474,000, yn lefel uchaf ers mis Hydref 1996.

Serch hynny roedd cwymp o 36,000 mewn diweithdra yn chwarter cyntaf 2011, i 2.45 miliwn.

Cynyddodd nifer y bobol mewn gwaith 118,000 i 29.24 miliwn. Mae hynny 332,000 yn is na’r ffigwr cyn dechrau’r argyfwng ariannol, ym mis Mai 2008.

Rhybuddiodd economegwyr fod diweithdra yn debygol o gynyddu dros y misoedd nesaf, wrth i doriadau Llywodraeth San Steffan ddechrau brathu o ddifrif.

Dywedodd Howard Archer, prif economegydd IHS Global Insight, y bydd diweithdra yn cyrraedd 2.67 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

“Rydyn ni’n drwgdybio na fydd y sector breifat yn gallu tyfu’n ddigon cyflym i wneud yn iawn am golli swyddi yn y sector gyhoeddus,” meddai.

Dywedodd y Gweinidog Swyddi, Chris Grayling, ei fod yn croesawu’r ffigyrau.

“Mae’n dda gweld fod diweithdra yn mynd yn y cyfeiriad cywir,” meddai.