Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg wedi mynnu na ddylai Llywodraeth San Steffan ail ystyried y toriadau mewn gwariant cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol mai’r addewid i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol yw’r “glud sy’n dal y glymblaid at ei gilydd”.

Mae Nick Clegg yn wynebu anniddigrwydd ymysg aelodau ei blaid ei hun ynglŷn â graddfa’r toriadau ariannol a chwalfa’r Dems Rhydd yn yr etholiadau ddechrau’r mis.

Ond mynnodd fod rhaid i’r llywodraeth fod yn wydn a bwrw ymlaen â’r cynllun i adfywio’r economi.

Galwodd am “economi Ryddfrydol newydd” fyddai’n rhoi’r pwyslais ar fuddsoddiad a sefydlogrwydd yn hytrach na hapfasnachu a dyled.

“Mae’n bryd troi cefn ar gyfnod ddechreuodd â bang mawr a gorffen â chwalfa fawr,” meddai.

Roedd yn cyfeirio at benderfyniad y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, i ddadreoleiddio’r farchnad yn 1986, a arweiniodd at dwf anferth yn sector ariannol Dinas Llundain.

Dywedodd Nick Clegg fod angen canolbwyntio ar adeiladu economi “mwy llewyrchus a mwy proffidiol”.

“Mae’r economi wedi ei achub o’r perygl mwyaf. Ond mae’n rhaid i ni fod yn wydn a pheidio llacio wrth fynd ati i leihau’r diffyg ariannol,” meddai,

“Mae gan y Llywodraeth gynllun i adfer sefydlogrwydd yn yr economi ac rydyn ni’n bwriadu cadw ato.”

Ychwanegodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr “yn anghytuno ynglŷn â natur a siâp y wladwriaeth ond yn cytuno fod rhai i’w gyllideb fod yn saff”.