Blaenau'r Cymoedd
Mae cymunedau glofaol yn dal i wynebu problemau iechyd a thrafferthion economaidd ddegawdau ar ôl i’r pyllau glo gau, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr adroddiad gan Brifysgol Durham mae arthritis parhaol, asthma a phroblemau cefn yn llawer mwy tebygol mewn ardaloedd glofaol.

Yn ôl yr adroddiad mae pobol sy’n byw mewn cymuned lofaol 27% yn fwy tebygol o ddweud fod ganddyn nhw salwch tymor hir.

“Mae rhai cymunedau glofaol wedi ei chael hi’n anodd iawn ac angen rhagor o gymorth, tra bod rhai wedi gwneud yn eithaf da yn sgil y colli swyddi anferth a effeithiodd ar y cymunedau,” meddai’r Athro Sarah Curtis o’r Adran Ddaearyddiaeth.

“Dylid rhannau gwybodaeth am y cynlluniau adfywio sydd wedi gweithio’n dda mewn rhai cymunedau.”

Targedu

Mae’r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i dargedu cymunedau glofaol er mwyn hybu adferiad economaidd yno.

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi gwario £30m, a Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario £930,000, ar Ymddiriedolaeth Adfer y Meysydd Glo.

Nod y nawdd yw adfer cymunedau glofaol yn economaidd a helpu gyda phroblemau iechyd.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau ein profiad ni o weithio mewn ardaloedd glofaol dros gyfnod o 10 mlynedd,” meddai Andy Lock o Ymddiriedolaeth Adfer y Meysydd Glo.

“Rydyn ni’n gwybod fod y problemau iechyd yn ddifrifol mewn rhai llefydd a’r her i ni yw parhau i fynd i’r afael â hynny.”