Mae'r arolwg yn cynnwys newyddion da i'r Prif Weinidog David Cameron
Mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu yn eu poblogrwydd dros y mis diwethaf, yn ôl arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae arolwg ComRes i’r Sunday Mirror yn dangos y Ceidwadwyr wedi codi dri phwynt i 38% – un pwynt yn unig y tu ôl i Lafur sy’n aros yr un fath ar 39%. Dim ond 11% sy’n cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.

O’r rhai a gefnogodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010, mae 45% wedi cefnu ar y blaid, gyda’r mwyaf llethol o’r bobl yma’n troi at y Blaid Lafur.

Yr unig lygedyn o newyddion da i Nick Clegg yw fod bron i hanner y rhai a holwyd yn rhoi rhywfaint o glod iddo am gymedroli cynlluniau’r llywodraeth i ailwampio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Mae’r arolwg yn dangos gwrthwynebiad mawr i’r cynlluniau.

Mae mwy o bleidleiswyr hefyd yn credu bod y glymblaid wedi bod yn well i Brydain na llywodraeth leiafrifol Dorïaidd – 40% o gymharu â 34%.

Dyma un o’r arolygon barn cyntaf i ymddangos ar ôl canlyniadau cymysg y gwahanol etholiadau ledled Prydain ddechrau’r mis. Cafodd 2,004 eu holi ar Fai 11 a 12,.