Mae cannoedd o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn gwrthdystiad gyferbyn â Thŷ’r Cyffredin – i ddatgan eu cefnogaeth i doriadau’r Llywodraeth mewn gwario cyhoeddus.

Trefnwyd y Rally Against Debt yng nghanol Llundain gyda help y mudiad TaxPayers’ Alliance, a’r bwriad oedd rhoi llais i’r rheini sy’n credu bod Prydain yn byw y tu hwnt i’w modd.

Roedd llawer o’r rhai a oedd yno, gan gynnwys aelodau o’r blaid Dorïaidd ac Ukip, hefyd yn galw ar y llywodraeth roi’r gorau i ddarparu cymorth ariannol i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.

Meddai Matthew Sinclair, cyfarwyddwr y TaxPayers’ Alliance: “Mae llawer o gyfleoedd wedi bod i grwpiau eraill gofrestru eu protest, ac mae arnon ni eisiau rhoi llais i bobl sy’n cynrychioli mwyafrif pur llethol sy’n credu bod toriadau mewn gwariant yn iawn ac yn angenrheidiol.

“Ond mae rhai meysydd nad ydyn nhw’n cael eu torri o gwbl, tra bod gwario’n codi mewn lleoedd eraill, fel cyfraniadau i’r Undeb Ewropeaidd a gwario ar ddatblygu ryngwladol.”

Roedd dros 1,500 wedi dweud ar Facebook y bydden nhw’n mynychu, ond tua 350 o bobl oedd yn gwrando ar yr areithwyr amser cinio, a oedd yn cynnwys Matthew Sinclair, ac arweinydd Ukip, Nigel Farrage.

Roedd y protestwyr yn cludo baneri’n dweud pethau fel “Drowning in debt“, “No more EU bailouts” a “Stop spending money you don’t have“.

Ar un adeg, roedd y protestwyr yn siantio: “What do we want? Cuts! When do we want them? Now!“.

 “Nid dathliad o lyfrgelloedd yn cau neu bobl ar gyflog isel yn colli eu swyddi yw hyn,” meddai Nigel Farage.

“Derbyn ydyn ni fod y wlad yma mewn helynt ddifrifol, ac er gwaetha’r toriadau, rydyn ni’n cynyddu toriadau mewn rhai meysydd. Mae angen inni wneud toriadau, ac mae angen inni flaenoriaethu o safbwynt lle mae’r toriadau’n dod.”