Tony Blair
Mae cyn bennaeth gwybodaeth gudd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi tanseilio honiadau’r cyn Brif Weinidog Tony Blair a’i gefnogwyr tros ryfel Irac.

Roedd swyddogion gwybodaeth wedi dod dan bwysau i ddod o hyd i dystiolaeth a fyddai’n cryfhau’r achos i fynd i ryfel yn erbyn Saddam Hussein, meddai’r Uwchfrigadydd, Michael Laurie.

Mae hynny’n mynd yn groes i dystiolaeth Tony Blair ac, yn arbennig, i honiadau ei bennaeth newyddion, Alastair Campbell am y ddogfen allweddol,  ‘y dodgy dossier’.

Roedd eu dogfen gynta’ am arfau dinistriol yn Irac wedi ei gwrthod am nad oedd hi’n ddigon cry’, meddai’r cyn filwr mewn dogfen sydd wedi ei chyhoeddi gan Ymchwiliad Chilcot.

Pwysau

Ac yntau’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Casglu Gwybodaeth yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystod y cyfnod cyn y rhyfel, fe ddywedodd wrth yr ymchwiliad i’r amgylchiadau fod yna bwysau i “ddod o hyd i wybodaeth i gryfhau’r achos”.

Roedden nhw wedi dod i’r casgliad nad oedd arfau dinistriol gweithredol yn Irac gan gredu eu bod naill ai wedi eu datgymalu, eu claddu neu eu hanfon dramor.

Yn sicr, meddai’r Uwchfrigadydd, roedd y ddogfen derfynol i ddadlau tros fynd i ryfel yn mynd y tu hwnt i’r math o gasgliadau y byddai asesiad o’r fath yn eu gwneud fel rheol.