Mae undeb Unite wedi dod i gytundeb gyda chwmni hedfan British Airways ar ôl 18 mis o anghydfod diwydiannol.
Mae disgwyl i’r cynnig diweddaraf gael ei dderbyn gan aelodau’r undeb ar ôl i’w harweinwyr ei gynnig mewn cyfarfod ym Maes Awyr Heathrow heddiw.
Fe fydd y cytundeb yn adfer consesiynau teithio ar gyfer staff oedd wedi streicio dros y flwyddyn a hanner diwethaf.
Dywedodd arweinydd Unite, Len McCluskey, ei fod “wrth ei fodd” eu bod nhw wedi dod i gytundeb, gan ddweud ei fod yn newyddion da i’r gweithwyr, y cwmni hedfan a chwsmeriaid.
Penderfynodd Unite streicio yn wreiddiol ar ôl i BA gyhoeddi ym mis Hydref 2009 eu bod nhw’n bwriadu torri 1,700 o swyddi a rhewi cyflogau.
Digwyddodd y streic gyntaf tri diwrnod ym mis Mawrth 2010. Ond datblygodd y ddadl yn un am sut yr oedd y cwmni wedi trin staff oedd wedi ymuno yn y streic.
Roedd 22 diwrnod o streiciau’r llynedd, gan gostio mwy na £150 miliwn i gwmni BA ac achosi trafferthion teithio mawr i deithwyr.