Fe fydd y BBC yn ffilmio ei raglen wleidyddol Question Time o garchar Wormwood Scrubs o flaen cynulleidfa o garcharorion, cyhoeddodd y gorfforaeth heddiw.

Fe fydd 10 o garcharorion yn ymuno â’r gynulleidfa fydd fel arall yn cynnwys aelodau cyffredin o’r cyhoedd.

Bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, a’r cyn-ysgrifennydd cartref, Jack Straw, ar y panel yn ystod y sioe fydd yn cael ei ddarlledu ddydd Iau nesaf.

“Fe fydd yna 10 o garcharorion, ond ni fydd yr un ohonyn nhw wedi cyflawni troseddau treisgar difrifol,” meddai llefarydd ar ran y BBC.

“Fe fydd gweithwyr y carchar a’r BBC yn ymchwilio i’w cefndir nhw.”

Daw’r penderfyniad i ddarlledu o’r carchar ar ôl i Lys Hawliau Dynol Ewrop benderfynu fod gan y Deyrnas Unedig chwe mis i ganiatáu i garcharorion bleidleisio.

“Bydd cynnwys carcharorion a gweithwyr y carchar yn y drafodaeth yn gyfle i glywed barn unigryw ar yr hawl i bleidleisio yn ogystal â chwestiynau cyffredinol eraill,” meddai llefarydd ar ran y BBC.