Mae lladron wedi dwyn offer gwerthfawr – ar ôl torri i mewn i garchar.

Torrodd y lladron drwy ffens perimedr Carchar Sudbury yn Swydd Derby cyn gorfodi drws gweithdy ar agor, meddai llefarydd ar ran Heddlu Swydd Derby.

Llwyddon nhw i dorri twll yn y ffens cyn dwyn offer torri metal oedd y carcharorion yn eu defnyddio.

Dim ond pan ddychwelodd gweithwyr i’r carchar am 9am ddydd Llun y sylweddolon nhw fod rhywun wedi torri i mewn.

Dywedodd un carcharor wrth bapur newydd lleol y Derby Telegraph fod “pawb yn meddwl ei fod yn ddoniol iawn”.

“Sut mae disgwyl iddyn nhw gadw carcharorion i mewn os nad ydyn nhw’n gallu cadw lladron allan?” gofynnodd un arall.

Roedd y carchar yn ysbyty yn wreiddiol cyn cael ei drawsnewid yn 1948. Mae yna 581 o garcharorion yno.