Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cyfaddef heddiw y bydd adferiad economaidd Ynysoedd Prydain yn arafach na’r disgwyl.

Dywedodd llefarydd ar ran y banc y bydd toriadau ariannol £81 biliwn Llywodraeth San Steffan a chwyddiant yn rhoi pwysau mawr ar economi’r wlad.

Bydd cynnydd sylweddol mewn prisiau egni – gan gynnwys biliau trydan, olew a nwy – yn arafu twf yr economi ac yn cynyddu costau byw yn 2011 a 2012, meddai’r Banc.

Mae disgwyl i chwyddiant daro 5% eleni ac aros uwchben targed y Llywodraeth drwy gydol 2012, cyn syrthio’n ôl yn 2013, medden nhw.

Rhybuddiodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, fod chwyddiant yn “gyfnewidiol” a’i fod yn “ansicr” ynglŷn â’r effaith ar gostau byw.

Daw’r newyddion digalon am yr economi union flwyddyn ar ôl ffurfio llywodraeth y glymblaid yn San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing fod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi ei gwneud hi’n glir erioed y byddai’r adferiad yn un “anodd”.