Yr M4
Mae gweinidogion Llywodraeth San Steffan yn ystyried codi’r cyfyngiad cyflymder i 80 milltir yr awr ar draffyrdd Lloegr.

Ar yr un pryd mae yna gynlluniau i dynhau’r cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd gwledig – oherwydd nifer y bobol sy’n cael eu lladd a’u hanafu yn ddifrifol ar ffyrdd o’r fath.

Mae disgwyl i Philip Hammond, y Gweinidog Trafnidiaeth, ddatgelu’r cynlluniau yn llawn yn hwyrach eleni.

Dywedodd ei fod yn barod i gefnogi’r newid o 70 i 80 milltir yr awr ar draffyrdd os oedd hynny o fudd i economi Prydain. Mae’r cyfyngiad 70 mya yn bod ers 1965.

Fe fyddai’n rhaid i’r Gweinidog Trafnidiaeth yn y Cynulliad benderfynu a fyddai Cymru yn dilyn yr un trywydd.

‘Angen ystyried yr economi

Dywedodd Philip Hammond wrth bapur newydd y Daily Telegraph fod angen ystyried y budd economaidd yn ogystal â’r effaith ar ddiogelwch wrth newid y cyfyngiadau cyflymder.

“Os ydych chi’n ystyried diogelwch ar ei ben ei hun fe fyddai yna gyfyngiad cyflymder o 10 mya ar bob ffordd,” meddai.

“Mae angen ystyried gwerth cyfyngiadau cyflymder o ran diogelwch a’r gost o ran arafu siwrneiau.”

Roedd ymchwil gan yr Adran Drafnidiaeth yn 2009 yn awgrymu bod 52% o’r cerbydau ar draffyrdd Prydain eisoes yn teithio dros 70 milltir yr awr.

Cythruddo’r Dem Rhydd?

Ond fe allai codi’r cyfyngiad cyflymder gythruddo’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y glymblaid.

Mae gyrru’n gyflymach yn defnyddio mwy o danwydd ac mae’n debyg fod y Gweinidog Egni, Chris Huhne, eisoes wedi gwrthwynebu’r syniad.