Dinas Llundain
Mae arweinydd undeb y TUC wedi rhybuddio cyfarwyddwyr busnes y bydd toriadau ariannol y llywodraeth yn gwneud niwed iddyn nhw yn ogystal â’r sector gyhoeddus.

Dywedodd fod cyfarwyddwyr cwmnïau mawr yn cefnogi toriadau “dwfn a chyflym” Llywodraeth y glymblaid – ond heb sylweddoli beth fyddai sgil effaith hynny ar eu busnesau eu hunain.

Mynnodd Brendan Barber y byddai’r toriadau yn gwneud niwed i gwmnïau preifat hefyd, oherwydd yr holl arian y mae’r Llywodraeth yn ei wario ar nwyddau a gwasanaethau.

Bydd cwmnïau hefyd yn ddioddef oherwydd bod llai o arian ym mhocedi eu cwsmeriaid, meddai.

“Mae angen cynllun amgen er mwyn creu swyddi a thwf, cadw pobol mewn gwaith a chadw cyllid treth i lifo,” meddai.

“Mae hanes economaidd yn dangos mai dyna fyddai’r ffordd orau o leihau’r diffyg ariannol yn y tymor hir.”

Dywedodd fod angen amserlen hirach ar gyfer y toriadau, ac y gallai Prydain fforddio talu dyled ar ben y diffyg ariannol am y tro.

Mae angen trethi teg fel bod y rheini sy’n gyfrifol am yr argyfwng ariannol yn cyfrannu at ddatrys y broblem,  a threth newydd ar drafodion banciau er mwyn ffrwyno hapfasnachu yn y sector ariannol, meddai.

“Ni fydd hyn yn ein gwneud ni’n llai cystadleuol. Mae’n fater o degwch, a sicrhau nad yw’r banciau a’r bancwyr achosodd yr argyfwng yn gallu anwybyddu’r canlyniadau,” meddai.

“Mae busnesau wedi cefnogi lleihau’r diffyg ariannol yn gyflym ond mae angen iddyn nhw fod yn ofalus. Ni fydd y toriadau ariannol yn gwneud niwed i’r sector gyhoeddus yn unig ond yn anafu’r sector breifat hefyd.

“Yn yr achos yma mae’r moddion yn gwneud yr afiechyd yn waeth.”