Mae tri o gadwynau archfarchnadoedd mwyaf Prydain wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu torri prisiau tanwydd o fory ymlaen.

Cyhoeddodd Morrisons y byddwn nhw’n torri pris petrol 1c a disel 3c.

Yn fuan wedyn cyhoeddodd Asda y byddwn nhw’n torri pris petrol 1c a disel 4c.

Ychydig funudau yn ddiweddarach cyhoeddodd Tesco y byddwn nhw hefyd yn gostwng prisiau tanwydd, o 3c.

“Mae pris cyfanwerthol tanwydd yn syrthio ac rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid elwa ar yr arbediad hwnnw,” meddai cyfarwyddwr petrol Morrisons, Mark Todd.

Dywedodd cyfarwyddwr petrol Asda, Andy Peake, na fyddai’n rhaid i unrhyw un dalu mwy na 135.7c ar ddisel a 134.7c am betrol ar y 180 o orsafoedd petrol oedd gan y cwmni.