Vince Cable
Mae Comisiwn Cwynion y Wasg wedi penderfynu fod penderfyniad papur newydd y Daily Telegraph i anfon gohebwyr cudd er mwyn ceisio datgelu anniddigrwydd ymysg gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn y rheolau.

Derbyniodd y comisiwn ddadl papur newydd y Daily Telegraph fod y penderfyniad i recordio gwleidyddion blaenllaw heb yn wybod iddynt wedi cynhyrchu deunydd “oedd o ddiddordeb i’r cyhoedd”.

Ond penderfynodd Comisiwn Cwynion y Wasg ategu cwyn gan Lywydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tîm Farron.

Collodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, ei rym i reoli’r cyfryngau ar ôl brolio wrth newyddiadurwr cudd ei fod wedi “datgan rhyfel” yn erbyn Rupert Murdoch.

Rhoddodd Vince Cable ei droed ynddi drwy ddweud fod bod yn y glymblaid “fel brwydro mewn rhyfel” ac y gallai ddefnyddio’r “opsiwn niwclear” ac ymddiswyddo pe bai’n rhaid.

Trosglwyddwyd yr hawl i wneud y penderfyniad ar gais News Corportaion i brynu BSkyB i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt.

Roedd tua 200 o bobol wedi cysylltu gyda Chomisiwn Cwynion y Wasg ar ôl i’r straeon gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Dywedodd papur newydd y Telegraph eu bod nhw wedi profi nad oedd datganiadau “preifat a chyhoeddus” gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol “yn gyson”.

Ond dywedodd y comisiwn nad oedd y dystiolaeth gychwynnol yn ddigon cryf er mwyn cyfiawnhau mynd ati i recordio’r gwleidyddion heb yn wybod iddynt.

“Mae’r Comisiwn wedi dweud tro ar ôl tro nad ydi ‘teithiau pysgota’ o’r fath yn dderbyniol,” meddai cyfarwyddwr Comisiwn Cwynion y Wasg, Stephen Abell.

Dywedodd Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Tîm Farron, fod gweithredoedd y Daily Telegraph wedi bygwth tanseilio perthynas Aelodau Seneddol a’u hetholwyr.