Mae gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn parhau i gael cyflogau gwell na gweithwyr y sector breifat er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth San Steffan i dorri yn ôl.

Mae adroddiad gan grŵp dylanwadol y Policy Exchange yn awgrymu fod y bwlch rhwng cyflogau yn y sector gyhoeddus a phreifat yn parhau i ledu.

Roedd gweithwyr yn y sector breifat wedi dioddef “toriadau llym” yn eu cyflogau tra bod cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus wedi cynyddu.

Yng Nghymru gall gweithwyr yn y sector gyhoeddus ddisgwyl ennill cyflog 20% yn fwy na gweithwyr yn y sector breifat, yn ôl yr adroddiad.

Dim ond ymysg y 10% oedd yn ennill y cyflogau uchaf oedd gweithwyr yn y sector breifat yn cael eu talu mwy.

“Mae cyflogau yn y sector gyhoeddus wedi tyfu y tu hwnt i reolaeth,” meddai cyfarwyddwr y Policy Exchange, Neil O’Brien.

“Mae yna bwysau anferth ar gyllidebau oherwydd y diffyg ariannol. Os yw undebau eisiau cynnal swyddi gweithwyr mae’n rhaid iddyn nhw sylweddoli y bydd angen ail-ystyried cyflogau.

“Mae’n fater o degwch. Mae’n annheg disgwyl i weithwyr yn y sector breifat orfod aberthu’r cyfan.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y TUC, Brendan Barber, fod hyn yn “ymgais arall gan grŵp adain dde i gorddi’r dyfroedd a chreu rhwygiadau rhwng gweithwyr y sector gyhoeddus a’r sector breifat.

“Y gwir yw eu bod nhw i gyd yn mynd drwy gyfnod erchyll. Mae gweithwyr y sector gyhoeddus wedi gweld eu cyflogau yn cael eu rhewi, yn colli swyddi, ac wedi gweld gostyngiad o 25% yng ngwerth eu pensiynau.”