Mae gan bobol ifanc ddisgwyliadau afrealistig ynglŷn â’u cyflogau ar ôl gadael byd addysg, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.

Mae pobol ifanc yn disgwyl cyflog o tua £16,000 ar ôl gorffen eu haddysg, £35,400 erbyn eu bod nhw’n 25, a £61,700 erbyn eu bod nhw’n 35, yn ôl banc yr RBS.

Mewn gwirionedd mae’r gweithiwr cyfartalog 18 i 21 oed ar £8,595, sy’n cynyddu i £18,705 erbyn eu bod nhw yn eu 20au, a £24,333 erbyn eu bod nhw yn eu 30au.

Mae pobol ifanc yr un mor afrealistig ynglŷn â phryd y byddwn nhw’n gallu prynu eu cartref cyntaf. Mae 53% yn disgwyl gallu gwneud hynny erbyn eu bod nhw’n 25, a 82% yn disgwyl gwneud hynny erbyn eu bod nhw’n 30.

Yn ôl ffigyrau Cyngor y Benthycwyr Morgeisi, 31 yw oed cyfartalog person wrth brynu ei gartref cyntaf.

Dim ond 20% oedd wedi llwyddo i brynu tŷ erbyn eu bod nhw’n 25 oed.

“Mae’r ymchwil eleni yn dangos fod pobol ifanc Prydain yn dangos rhagor o ddiddordeb mewn arian, ond mae’n amlwg fod bwlch rhwng eu disgwyliadau nhw a’r gwirionedd,” meddai Andrew Cave o’r RBS.