Alex Salmond
Mae arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi addo refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban ar ôl i’w blaid sicrhau buddugoliaeth swmpus yn Etholiadau Senedd yr Alban.

Enillodd y blaid 69 o’r 129 sedd yn Holyrood, tra bod y Blaid Lafur ar 37 sedd, y Ceidwadwyr ar 15, y Democratiaid Rhyddfrydol ar bump a’r Gwyrddion ar ddwy.

Mae disgwyl i’r blaid gynnal refferendwm ar annibyniaeth tua 2014, tua diwedd y senedd bresennol.

Mewn araith yn y brifddinas Caeredin, dywedodd Alex Salmond y byddai’n “llywodraethu dros bawb yn yr Alban sy’n credu y gallwn ni fyw mewn gwlad well”.

Enillodd yr SNP eu 65ain sedd yn Kirkcaldy, ble mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Gordon Brown, yn Aelod Seneddol.

Llwyddodd arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Iain Gray, i gadw gafael ar ei etholaeth ef o 151 pleidlais yn unig. Mae wedi dweud y bydd yn camu o’r neilltu yn yr hydref.

Ond mae sawl un o’u holynwyr posib, gan gynnwys y llefarydd cyllid Andy Kerr a’r cyn-weinidog Tom McCabe, wedi colli eu seddi i’r SNP.

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol naw etholaeth, a cholli 25 blaendal ar ôl methu ag ennill 5% o’r bleidlais mewn rhai ardaloedd.

Bydd y senedd newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Mercher, pan fydd yr aelodau newydd yn cael eu hurddo.