Nick Clegg yw Dirprwy Brif Weinidog Prydain.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli 11 o’u 13 sedd ar Gyngor Lerpwl, gyda’r cyn-Arweinydd Lib Dem yno yn cael ei guro gan ddyn 18 oed.

Mi gollodd Mike Storey – cyn-Arweinydd Cyngor Lerpwl – i Jake Morrison o’r Blaid Lafur,  sydd dal yn ei arddegau.

Yn ôl arweinydd lleol y Lib Dems roedd y blaid wedi dioddef oherwydd “ymgyrch o gasineb” yn erbyn Nick Clegg yn genedlaethol.

“Fe gawson ni groeso cynnes iawn ar stepen y drws,” meddai Flo Lucas.

“Toedd yna ddim drwgdeimlad tuag at ein ymgeiswyr. Ond unwaith i chi grybwyll y geiriau Lib Dem yr ymateb oedd: ‘Ryda ni gyd yn gwybod beth mae Nick Clegg wedi’i wneud. Mae o wedi neidio i’r gwely efo’r Torïaid.”

Mae Flo Lucas yn beio’r Blaid Lafur am gynnal ymgyrch negyddol.

“Rwy’n credu ei fod yn gwneud drwg go-iawn i wleidyddiaeth,” meddai.