Mae disgwyl i gawodydd trymion helpu diffoddwyr tân sy’n parhau i geisio rhoi stop ar danau sy’n llosgi ar hyd a lled Prydain, yn ôl proffwydi tywydd.

Er bod disgwyl iddi fod yn fwy cynnes na’r arfer mewn sawl rhan o Brydain dros y penwythnos, mae disgwyl stormydd mellt a tharanau hefyd.

Ddoe roedd yr heddlu sy’n ymchwilio i’r tân yng nghoedwig Swinley, y tân mwyaf erioed yn Berkshire yn Lloegr, yn cadarnhau eu bod wedi arestio dau lanc ar amheuaeth o gychwyn y tân.

Cafodd y bechgyn 14 oed eu rhyddhau ar fechniaeth tan fis nesaf, yn ôl swyddogion.

Roedd rhwng 20 a 30 o gerbydau a pheiriannau diffodd tân yn dychwelyd i goedwig Swinley heddiw wrth i’r swyddogion weithio bob awr o’r dydd a’r nos i geisio rhoi taw ar y fflamau.

“Ryda ni’n mynd i’r afael â’r tân yma, ond yn amlwg gan bod y tywydd poeth yn parhau maen dal i achosi problem,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân.