Er gwaetha’r canlyniadau trychinebus i’w blaid neithiwr, mae Nick Clegg yn mynnu na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnu ar y Glymblaid yn San Steffan.
Nick Clegg

Mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain Nick Clegg wedi cydnabod bod ei blaid wedi cael “celpan hegar” yn yr etholiadau, ac mae disgwyl iddyn nhw golli’r refferendwm ar newid y drefn bleidleisio Brydeinig.

Yn ogystal â cholli gafael ar etholaeth Maldwyn yng Nghymru, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi diodde’ colledion trwm ar lefel cynghorau sirol yn Lloegr neithiwr.

“Fe fydd yn rhaid i ni ddysgu gwersi o’r hyn ryda ni wedi glywed ar stepen y drws,” meddai Nick Clegg.

“Ond mae’n rhaid i ni godi eto a symud ymlaen, oherwydd mae ganddo ni waith mawr iawn i’w wneud. Mae’n rhaid i ni gynnig gobaith a swyddi ar gyfer pobol ar hyd a lled y wlad. Ryda ni wedi cychwyn gwneud y gwaith yma ac mae’n rhaid i ni gwblhau’r dasg.”