Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi gorchymyn i ddau o ddiplomyddion Libya gael eu hanfon o Brydain.

Dywedodd fod ymddygiad y ddau wedi dod yn “annerbyniol”a bod ganddyn nhw a’u teuluoedd hyd at 11 Mai i adael y wlad.

Mae’n dilyn diarddeliad llysgennad Libya mewn ymateb i lysgenhadaeth Prydain yn cael ei dinistrio yn Tripoli.

“Dw i wedi gorchymyn anfon y ddau ddiplomydd o’r wlad ar y sail bod eu gweithgareddau’n groes i fuddiannau’r Deyrnas Unedig,” meddai William Hague mewn datganiad.

Trafodaethau

Wrth i’r ymdrechion milwrol o dan arweiniad Nato barhau yn Libya, mae William Hague yn Rhufain heddiw i drafod yr argyfwng gyda gweinidogion o wledydd eraill.

Ymysg yr hyn sy’n cael ei drafod mae mesurau i gynyddu pwysau diplomyddol, economaidd a militaraidd ar gyfundrefn y Cyrnol Muammar Gaddafi.

Dywed llefarydd ar ran Stryd Downing fod diarddel y ddau ddiplomydd yn rhan o ymdrech i roi mwy o bwysau ar Gaddafi.

“Mae hyn yn enghraifft o gynyddu pwysau diplomyddol,” meddai’r llefarydd. “Mae’n rhaid inni wneud yr un modd gyda’r pwysau milwrol a’r pwysau economaidd.”